Chwerwfelys
DILYNIANT MUDFERWI
Mae Alys wedi cael ei breuddwyd: mae hi’n rhedeg bwyty llwyddiannus yn ei phentref genedigol yn Nyffryn Clwyd efo’i chariad, y cogydd golygus Duncan Stuart. Ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd – pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia mae’n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â’r bwyty. Daw John, ffrind gorau Duncan, i roi help llaw iddi, ond doedd Alys ddim wedi ystyried y byddai’n gorfod delio â Lydia, cyn-wraig drafferthus a sbeitlyd Duncan.
Gwyliwch fideo YMA
Gwales.com
Goodreads
BookShop.Uk
Adolygiad gan Siân O.Jones, adolygydd Clwb Darllen Cymraeg:
"Wel wedi mwynhau cymaint ar Mudferwi roedd cael dilyniant mor sydyn yn fwynhâd pur! Mae yma ddyfnder a duwch ar adegau - themâu dyrys iawn ond sy'n osgoi tywyllwch oherwydd gafael crefftus yr awdur ar ei chymeriadau ac oherwydd ei dawn dweud. Baswn i'n argymell darllen Mudferwi gyntaf er mwyn deall y cyd-destun ond, imi, yn yr ail stori mae rhai o gymeriadau'r ymylon yn dod yn grwn a chofiadwy. Campwaith o nofel - ac mae gwrtheiriad y teitl "Chwerwfelys" yn cyfleu'r nofel i'r dim."