Curiad Gwag
Mae Sophie Shaw yn 24 oed, yn ddigartref ac yn ddi-waith ... ac yn ychydig o enigma. Pan gaiff ei phenodi yn Rheolwr Taith i Konquest, band roc trwm Cymraeg a reolir gan Brian Bates, ffigwr chwedlonol yn y byd cerddoriaeth, caiff ei thaflu i ganol bywyd cyffrous y sîn roc. Gorfodir hi i wynebu gorffennol y mae hi wedi troi cefn arno, ac ail-fyw ambell brofiad y byddai’n well ganddi eu hanghofio...
A all hi gadw trefn ar bedwar dyn ifanc gwyllt (a chadw ei meddwl ar waith) yn ddigon hir i gwblhau’r daith?
Addas i oedolion ifanc 16+
Gwales.com
Goodreads
Adolygiad Cath Aran
Pleser pur oedd cael eistedd i lawr gan wybod y byddai gen i lonyddwch am beth amser i ddarllen llyfr - a gwybod fy mod i’n mynd i fwynhau’r darllen gan mai’r awdur yw Rebecca Roberts. Yn storïwraig fedrus, mae hi’n ysgrifennu mewn arddull rwydd a llifeiriol, yn gwneud i’w darllenwyr chwerthin yn uchel ar ei disgrifiadau doniol, a tharo’r emosiynau gyda disgrifiadau o drasiedïau sy’n corddi’r bol. Dydw i ddim wedi darllen ’run llyfr ganddi nad ydw i wedi ei fwynhau. Llyfrau fel Mudferwi, Chwerwfelys ac wrth gwrs, Helynt.
Ches i ’mo fy siomi.
Mae Curiad Gwag yn wahanol i bob llyfr arall dwi wedi’i ddarllen. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dwi’n hoff iawn o’r teitl sy’n chware ar ystyr gwahanol y gair curiad, un ai fel ergyd (ar ddrwm, mewn cerddoriaeth?) neu fel curiad sy’n rhyw fath o boen ac yn rhoi cliw i ni o’r hyn sydd i ddod y tu mewn i’r clawr.
Lleolir Curiad Gwag yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yng nghyffiniau’r Rhyl, fy “adolescent stomping ground” fy hun, a’r naratif yn defnyddio’r Wenglish a siaredir gan bobl y Ffin, gan amlygu gallu’r trigolion i neidio’n ddiymdrech o un iaith i’r llall mewn gwir ddwyieithrwydd. Mae’n gyfoes, yn gyfarwydd ac yn real.
Mae’r stori’n hoelio’r sylw o’r frawddeg gyntaf, wrth i’r prif gymeriad, Sophie Shaw, gael ymweliad gan y beilïaid tra mae hi yn y gawod - galw maen nhw i’w throi allan o’i chartref. O’r eiliad gyntaf honno mae’r ferch bump ar hugain oed yn ennyn ein cydymdeimlad. Dilynwn ei hanes yn bryderus wrth iddi ddod yn ddigartref, a cheisio’n aflwyddiannus i gael cymorth gan ei chyn-gariad, Kieran. O leiaf mae ganddi swydd yn nhafarn y George and Dragon (Y Llew Coch gynt) gyda’r llysnafeddog Les a’i wraig wenwynllyd Cassandra... ond dyw hynny ddim yn para’n hir chwaith. Dechreua ei ffawd wella pan gaiff Sophie wahoddiad annisgwyl gan yr hyrwyddwr cerddoriaeth Brian Bates i ddod am gyfweliad ar gyfer ei swydd ddelfrydol: Rheolwr Taith i’r band roc Konquest, ond ydi hi’n neidio o’r badell ffrio i’r tân?
Mae’r cymeriadau’n wych a chofiadwy, a phob aelod o’r band yn berchen ar ei agweddau unigryw ei hun, ac fel ffan mawr o Heavy Metal, caf fy atgoffa wrth ddarllen o gymeriadau gwyllt bandiau fel Black Sabbath, Velvet Revolver a Motley Crüe. Teimlad braf iawn ydi sgipio’n hapus ochr yn ochr â Sophie a mwynhau’r cyffro o fod ar daith gyda’r band.
O fewn y fframwaith hwn, mae’r awdur yn mynd â ni ar daith sensitif hunan ddarganfyddiad Sophie, gan gyffwrdd â themâu megis hunaniaeth, teulu a chyfeillgarwch yn ogystal ag alcoholiaeth a chamddefnyddio cyffuriau, ac effaith hynny ar bawb o amgylch yr un sy’n gaeth. Mae hon yn stori o oleuni a thywyllwch sy’n sbarduno’r emosiynau i deimlo dicter, ysgafnder hwyliog a thristwch torcalonnus. Wrth i’r plot droelli a throi mewn modd clyfar a medrus, fyddwn i byth wedi dyfalu beth fyddai’n digwydd ar ddiwedd y nofel... bydd yn rhaid i chi ei darllen i ddarganfod mwy.
Dim ond un peth fyddwn i’n dadlau amdano gyda’r awdur, sy’n dweud yn y llyfr fod “pawb yn hoffi ‘Mr Brightside’.”
Na, no we - ‘Dr Feelgood’ i mi bob tro.