MudferwiMerch dawel a swil yw Alys, sy'n ddigon hapus yn gweithio yng nghegin ysgol y pentref... hynny yw, nes i'r gegin honno gau. Penderfyna wneud cais am swydd mewn bwyty lleol sydd newydd gael ei brynu gan gogydd teledu enwog - cogydd sydd ddim yn hoffi'r syniad o ferched yn gweithio yn ei gegin. Gwales.com BookShop.Uk Goodreads Adolygiad Bet Jones Wrth daro llygad am y tro cyntaf ar y gyfrol, daeth yr ymadrodd Saesneg am beidio beirniadu llyfr ar sail ei glawr yn unig i’r meddwl. Am unwaith, fodd bynnag, mae’r llun o gacen siocled hyfryd yn gweddu’n rhagorol i’r tamaid melys a gaiff y darllenydd rhwng y cloriau. Stori ddifyr am Alys Ryder, cogyddes ifanc o Ddyffryn Clwyd, a geir yma a chawn ddilyn hynt a helynt ei gyrfa yn y byd arlwyo o’r cychwyn, pan gyflogwyd hi’n olchwr llestri yng nghegin bwyty lleol, y Fleur-de-Lis. Dengys yr awdur ddawn i adrodd stori’n afaelgar, a hynny mewn iaith syml a di-lol. Mae’n darlunio’n gredadwy'r berthynas sydd rhwng ei chymeriadau, yn arbennig felly'r awyrgylch gystadleuol, lawn straen a geir yng nghegin bwyty’r Fleur-de-Lis; awyrgylch lle mae teimladau misogynistaidd yn amlwg iawn. Ceir hefyd ambell olygfa ysgafn, lle mae Alys yn cael ei hun i drafferthion wedi iddi gymryd arni mai bachgen oedd hi er mwyn cael gwaith yno. Gan i’r stori gael ei hysgrifennu yn y person cyntaf, cawn ddod i adnabod Alys yn dda a sylwi ar ei datblygiad drwy ei myfyrdodau wrth iddi ddysgu ymdopi â bywyd ac ennill hunanhyder. Ar ddechrau’r stori, caiff ei darlunio fel person mewnblyg a swil sydd wedi dioddef bwlio yn ystod ei dyddiau ysgol, a chaiff hi’n anodd sgwrsio a chreu perthynas gyda phobl eraill. Fel mae’r stori yn datblygu, fodd bynnag, gwelwn Alys yn blodeuo ac yn aeddfedu, wrth iddi ddechrau magu hyder ynddi ei hun a’i doniau fel cogyddes. Drwy gydol y stori mae ei theimladau carwriaethol yn ‘mudferwi’ yn dawel o dan yr wyneb. Hola ei hun beth yw ei disgwyliadau o safbwynt perthynas, gan iddi weld priodas ei mam a’i thad yn chwalu. A ddylai fodloni ar gyfeillgarwch yn unig, ynteu a ddylai hi aros nes ei bod yn dod o hyd i'r dyn delfrydol? Bydd y rhan o’r stori lle mae’r Alys yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio yn wledd i unrhyw un sydd yn mwynhau dilyn rhaglenni teledu fel Casa Dudley a Masterchef, gan i’r awdur nid yn unig ddisgrifio’r tensiynau’n gredadwy wrth i’r cystadleuwyr fynd ati i baratoi prydau bwyd ecsotig, ond hefyd ein tywys tu ôl i’r llenni i sylwi ar rôl y tîm cynhyrchu mewn cystadleuaeth o’r fath. Dyma lyfr a wna anrheg berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bwyd. Bet Jones Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. |