DILYNIANT #HELYNT Mae Rachel Ross wedi llwyddo i greu bywyd newydd gyda'i mam a'i chwaer, a setlo mewn ysgol newydd. Mae hi'n dechrau dod i adnabod ei thad go iawn, hefyd. Ond wrth i Jason, y dyn a'i magodd, baratoi i gael ei ryddhau o’r carchar, a oes ganddi le i boeni? Dilyniant i #Helynt, a enillodd wobrau Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og yn 2021.
Adolygiad Bethan Gwanas: "Dyna ddawn Rebecca: i wneud i ni falio am y cymeriadau (da) a bod isio iddyn nhw ddod allan o bob twll maen nhw ynddo. Ac mae Rebecca Roberts yn gallu creu chwip o dyllau. Dilyniant gwerth aros amdano. Ardderchog – eto." Darllenwch gweddill yr adolygiad YMA.